COVID-19 Neges i’n cwsmeriaid

NEWYDDION A’R CYNIGION DIWEDDARAF

COVID-19 Neges i’n cwsmeriaid

Erbyn hyn, mae’r sefyllfa ynghlwm ac arafu lledaeniad y feirws COVID-19 yn fwyfwy clîr, ac yn dilyn ein neges yr wythnos diwethaf, hoffem hysbysu’n cwsmeriaid o’r newid canlynol:

  • Mae Clwyd Agricultural ar agor, a rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth hanfodol i gynnal a chadw a trwsio offer ein cwsmeriaid yn y gweithdy ar ein safle. Ond, yn anffodus, hyd nes bydd y sefyllfa yn newid, ni fyddwn yn medru gwneud gwaith ar safle y cwsmer.
  • Mae ein ystafell arddangos a’n siop yn parhau ar gau i ‘gerdded fewn’ ond mae darnau a gwasanaeth trwsio pipellau hydraulic yn parhau i fod ar gael - lle mae’n bosib, ffoniwch o flaen llaw i gadarnhau eich gofynion.
  • Medrwn drwsio eich peiriant ar ein safle gan wneud trefniadau o flaen llaw. Bydd cwsmerieiad yn gyfrifol am ddod a’u peiriant atom, ac am benderfynu for eu taith / gwaith yn hanfodol.
  • Bydd rhaid sicrhau gofynion pellter cymdeithasol ynghyd a mesurau glanweithdra ychwanegol yn ystod eich ymweliad â’n safle.
  • Talwch sylw at unrgyw arwyddion newydd ar y safle os gwelwch yn dda.
  • Os ydych angen archwylio peiriant sydd mewn stoc cyn prynu, bydd rhaid trefnu hyn o flaen llaw a thalu sylw i’r gofynion uchod.
  • Rydym yn gofyn yn gwrtais na ddylai unrhyw berson sydd yn dioddef (neu unrhyw berson sydd yn dod o gartref ble mae aelod teulu yn dioddef) o unrhyw un o symptomau y Coronavirus ein galw i wneud gwaith na throi fynnu i’n safle.
  • Bydd unrhyw ddiweddariad ynglyn a’n sefyllfa gwaith yn cael ei hysbysu ar ein gwefan a’n tudalen Facebook.

Rydym yn gobeithio fod hyn yn eich sicrhau fod Clwyd Agricultural yn parhau i gynnig y cymorth a’r gwasanaeth mae eich busnes ei angen (hyd y gallwn), a diolchwn i chi am eich cydweithrediad yn ystod yr adeg anodd iawn yma.

Arhoswch yn Ddiogel – Gwarchodwch y Gwasanaeth Iechyd – Arbedwch Fywydau


Pob Eitem Newyddion a Cynigion