Gofal Tir Newydd

Ystod eang o beiriannau torri gwair

Rydych yma: Gwerthu > Gofal Tir > Gofal Tir Newydd



Rydym ni stocio casgliad llawn o beiriannau torri gwair traddodiadol sy’n torri tir newydd.

Ers dros 15 mlynedd, mae Clwyd Agricultural wedi bod yn ddeliwr awdurdodedig ar gyfer amrywiaeth o’r brandiau gofal tir gorau, gan gynnwys Stiga, Mountfield, Westwood – rydym yn falch iawn o ychwanegu’r brand Stihl i’r rhestr yma gan ein bod rwan yn ddeliwr swyddogol i'r brand. Mae gennym ni stoc fawr o beiriannau torri gwair newydd i ddiwallu eich holl anghenion, o beiriant gwthio bach i beiriant y gallwch eistedd arno a’i lywio, sy’n berffaith ar gyfer ystâd fawr. Mae gennym hefyd ystod eang o beiriannau llaw o ansawdd, megis torrwyr brwyn, torrwyr gwrych, chwythwyr a llifau gadwyn. Os nad ydy’r peiriant ydych ei angen ganddom ni, mi fedrwn gan amlaf ei gael gan y gwneuthurwr mewn amser rhesymol ac am bris cystadleuol, os yw’r peiriant ganddynt.

Daw’r holl offer yn barod i’w ddefnyddio, gyda sesiwn ymgyfarwyddo un-i-un i helpu cwsmeriaid i fanteisio i’r eithaf ar eu hoffer newydd. Wrth gwrs, daw’r holl offer newydd gyda gwarant gweithgynhyrchwr perthnasol a, gan ddibynnu ar yr offer, gallwn drefnu i’w ddosbarthu atoch chi.

Hustler Logo

ISEKI logo

Ego Power Beyond Belief logo
Billy Goat logo
Winton
Stiga
Mountfield
Westwood Logo
Ariens Logo
STIHL

Simplicity

Masport

Cobra

Snapper