Amdanom
Cartref > Amdanom
Y cyfarwyddwr
Mae Clwyd Agricultural yn cynnig cyngor a chefnogaeth annibynnol i unrhyw un sy'n trin caeau neu erddi. Rydym yn gwerthu, gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau a cherbydau amaethyddol, gofal tir a gardd gyda'n gweithdai, ein hystafell arddangos a'n hadran rannau ein hunain. Fe'n penodir yn ddelwyr ar gyfer Tractors Same, Deutz-Fahr a Lamborghini, ATVs Polaris, Trelars Nugent, Offer Mawr, Stihl, Stiga, Westwood, Mountfield, Ariens ac Echo. Rydym hefyd yn stocwyr rhannau ar gyfer Vapormatic, Sparex, Granit a Kramp.
Symudodd Pryderi Gruffydd i Lundain dros 25 mlynedd yn ôl ar drywydd ei freuddwyd i fod yn ddylunydd papur newydd, ond daeth yn ôl i Gymru dros 10 mlynedd yn ôl fel y gallai ei bedair merch fynd i ysgol Gymraeg. Deilliodd ei ddyhead i redeg cwmni yng Ngogledd Cymru o’i wreiddiau yn y gymuned ffermio.
Cafodd Lizzie Gruffydd ei magu ar feithrinfa blanhigion, Hooksgreen Herbs, lle mae ei thad a’i brawd yn tyfu perlysiau, mae ei modryb yn berchen ar berllannau ac roedd ei thaid yn berchen ar fferm laeth Quinney yn y 1960au. Mae teulu Pryderi yn berchen ar ffermydd ym Mhenllŷn lle mae ei frawd yng nghyfraith newydd ddechrau godro defaid. Y tu allan i’r gwaith, maent yn cludo eu merched o un lle i’r llall ac yn mynd a’u tri ci bywiog am dro hir ym mynyddoedd Cymru.
Y Sylfaenwyr
Sefydlodd Keith Williams a Phil Tebbutt Clwyd Agri a’i redeg am 38 o flynyddoedd cyn penderfynu ymddeol yn 2017. Mae Keith yn dal i gynnal diddordeb brwd yn y busnes ac yn gweithio’n rhan amser gyda Pryderi a’r gweithdy.