Scroll To Top

Darnau

Ar ôl bron i 40 mlynedd yn y busnes, mae gennym ni stoc enfawr o bartiau sbâr, dros 50,000, sy’n cynnwys dros 6,000 o rifau partiau unigol. Yn ogystal â stoc gynhwysfawr o bartiau gwasanaethu a thrwsio cyffredin, mae gennym ni ddarnau i ategu’r peiriannau rydym ni’n eu gwerthu sy’n ein galluogi i gynnig gwasanaeth ar ôl gwerthu gwych ar gyfer pob darn o offer neu beiriant. Bach neu fawr, newydd neu ail-law – mae’n dra thebygol y byddwn ni’n gallu canfod y part sydd ei angen arnoch chi.

Hefyd, ni yw prif stocwyr Gogledd Cymru ar gyfer partiau cyfnewid (replacement) Vapormatic gan gynnig amrywiaeth eang sy’n cynnwys pob model, yn ogystal ag ystod o ategolion.

Mae cynhyrchion eraill yn cynnwys amrywiaeth o deganau a dillad Deutz-Fahr a Same. Mae ein cysylltiadau â chwmnïau fel Sparex, Kramp a Granit yn golygu y gallwn gyflenwi unrhyw ran ar gyfer y rhan fwyaf o gerbydau oddi ar y silff neu i’w dosbarthu y diwrnod wedyn. Rydym hefyd yn cadw ystod eang o offer a nwyddau i’w defnyddio adref yn y gweithdy.

Rhowch alwad i ni neu dewch i ymweld â'n hystafell arddangos i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n edrych amdano.

  • Offer a rhannau amrywiol yn cael eu harddangos mewn siop
Tyre track pattern in a black colour