Gwasanaeth
Cartref > Gwasanaeth
Yma yn Clwyd Agricultural, ein bwriad yw sefydlu a chynnal perthnasau hir-dymor, wedi eu seilio ar gynnig gwasanaeth penigamp.
Rydym yn sylweddoli fod y berthynas yn ymestyn ymhellach na’r gwerthiant cychwynnol, a bod cefnogaeth parhaus a chynnig gwasanaeth yn hanfodol bwysig i’n cwsmeriaid, pryn yntai eich bod yn ffermwr, yn berchennog parc carafannau neu yn gwsmer domestig.
Rydym ni mewn lle gwych i gynnig gwasanaeth yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Wrecsam, Ynys Mon, Gwynedd a’r Wirral.
Gallwn wasanaethu a thrwsio ar y safle, neu yn eich lleoliad penodol chi. Fe allwn ni hefyd gasglu a dosbarthu o’ch lleoliad neu i’ch lleoliad. Fel arall, mae croeso i chi adael offer neu beiriannau gyda ni, maen nhw mewn dwylo diogel.
Gall Clwyd Agricultural ddelio ag atgyweiriadau, bach a mawr. Mae ein staff profiadol a chymwys ynghyd a’n gweithdy cynhwysfawr a’r cerbydau gwasanaethu yn golygu ein bod ni’n gallu diwallu ar gyfer unrhyw beth, o drwsio peiriannau torri gwair domestig i gyfnewid injan neu flwch gêr cyfan.
Rydym ni’n stocio llawer o bartiau ac mae gennym ni hefyd gyfleusterau i drwsio neu greu pibellau hydrolig newydd gan ddefnyddio ein stoc sylweddol o bibellau a gwahanol ddarnau.
Os oes angen gwasanaeth arnoch, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu!