Cyfle Gwaith - Technegydd
Newyddion & Cynigion Diweddaraf
Cartref > Newyddion & Cynigion > Cyfle Gwaith - Technegydd
Ffansi newid? Oes gennych chi brofiad o wasanaethu offer ‘plant’, LGVs neu offer amaethyddol, naill ai wedi'i ennill trwy weithio mewn rôl debyg neu trwy astudiaethau a cymwysterau? Rydym am i chi ymuno â'n tîm profiadol o beirianwyr yn Clwyd Agricultural.
Y Rôl - Technegydd Gwasanaeth
• Byddwch yn ymuno â'n tîm o beirianwyr profiadol yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw, yn perfformio diagnosteg, ac yn gwneud atgyweiriadau ar restr eang o beiriannau ar ein safle yn Dyserth, ac ar safleoedd cwsmeriaid ar draws Gogledd Cymru.
• Bydd angen i chi gwblhau adroddiadau, cardiau swydd a thaflenni amser
• Cynnal ein hasesiadau risg a dilyn rheolau Iechyd a Diogelwch
• Gweithio mewn ffordd lân a thaclus a helpu i gynnal amgylchedd gwaith diogel
Ein Gofynion - Technegydd Gwasanaeth
• Profiad o wasanaethu offer ‘plant’, LGVs neu offer amaethyddol, naill ai wedi'i ennill trwy weithio mewn rôl debyg neu trwy astudiaethau a cymwysterau
• Sgiliau dod o hyd i ddiffygion ar beiriannau, ‘transmissions’, systemau hydrolig, a chyda materion trydanol gan ddefnyddio'r offer diagnostig diweddaraf
• Trwydded yrru lawn y DU
• Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da
• Y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
• Agwedd frwdfrydig a chadarnhaol at waith
• Er nad yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant ar gael, byddai profiad o weithio ar beiriannau amaethyddol yn fanteisiol, yn ogystal â phrofiad o weldio a gwneuthuriad.
• Y gallu i weithio oriau estynedig ac ar benwythnosau
Y Pecyn
• Contract parhaol, yn gweithio 8:30am i 5:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
• Oriau ychwanegol ar gael
• Wedi'i leoli ar ein safle yn Dyserth (Gogledd Cymru), gyda fan cwmni wedi'i darparu ar gyfer teithio i safleoedd cwsmeriaid
• 30 diwrnod o wyliau blynyddol, gan gynnwys gwyliau banc
• Cyfleoedd datblygu gyrfa, gyda hyfforddiant a chefnogaeth lawn
Rhaid cyflwyno pob cais ar gyfer y rôl Technegydd Gwasanaeth hon trwy e-bost at lizzie@clwydagri.co.uk