Clwyd Agri a Lixwm wedi ymunno
Newyddion & Cynigion Diweddaraf
Cartref > Newyddion & Cynigion > Clwyd Agri a Lixwm wedi ymunno
Prynhawn Da,
Rydym yn falch o’ch hysbysu fod busnesau Clwyd Agricultural a Lixwm Garage wedi ymuno.
Byddwn o hyn ymlaen yn gweithio ‘efo’n gilydd dan enw Clwyd Agricultural, gyda’r bwriad o gynnig y gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid. Rydym yn credu, yn enwedig yn ystod yr amseroedd ansicr yma, y byddwn yn gryfach efo’n gilydd, ac y bydd hyn yn gwella holl agweddau y gwasanaeth a gynigir i’n cwsmeriaid.
Mae Gareth Davies o Lixwm Garage wedi rhedeg busnes peirianwaith amaethyddol llwyddiannus hefo’i dad am flynyddoedd lawer, a cafodd Clwyd Agricultural ei sefydlu ym 1980, gyda Lizzie a Pryderi Gruffydd yn cymeryd y busnes drosodd yn Rhagfyr 2017. Mae’r ddau gwmni wedi bod yn fusnesau teuluol ar hyd yr amser, gyda’r un gwerthoedd teuluol ac angerdd am y gymuned amaethyddol yng Ngogledd Cymru. Gan ein bod wedi bod yn gweithio yn agos a’n gilydd yn ystod y cyfnod diweddar, rydym yn hyderus fod y newid yma yn gam cadarnhaol ymlaen.
Mae’r farchnad wedi newid yn aruthrol dros y bum mlynedd diwethaf, ond mae’r ddau gwmni wedi medru tyfu. Wrth ymuno cryfderau y ddau fusnes, byddwn yn medru cynnig lefel uwch o wasanaeth a chefnogaeth, gyda mwy o beiriannwyr, mwy o stoc ac ystod mwy eang o beiriannau newydd. Byddwn hefyd yn gwella ar effeithlonrwydd y gwaith papur, tra’n cynyddu ein gallu paeirianyddol a’n gofal am gwsmeriaid.
Mae’r ddau gwmni wedi gweithio’n agos gyda Same, Deutz-Fahr a Vicon am nifer o flynyddoedd. Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau dilyniant i’r brandiau yma, gyda’r bwriad o roi cefnogaeth penigamp iddynt a’r holl frandiau eraill rydym yn eu cynyrchioli.
Bydd yr holl waith papur, biliau ac ati rwan yn cael eu prosesu trwy Clwyd Agricultural Limited, gyda’r manylion banc ar bob anfoneb. Bydd y cwmni yn parhau i weithredu o Terfyn Buildings, Caerwys Road, Dyserth, ac mi fydd rhifau ffôn y swyddfa 01745 571018 yn parahu ynghyd a rhifau ffôn symudol presenol yr unigolion.
Drwy mis Tachwedd a Rhagfyr, bydd y gweithdai yn ymuno, ynghyd a’r eitemau siop a darnau i fod ar un safle Clwyd Agricultural, ac o Ionawr 2021 ymlaen, rydym yn anelu am fod yn gweithio yn gyfan gwbl o’r un safle. Byddwn yn cynnig gwaith trwsio ar safle’r cwsmer, ynghyd a gwasanaeth nôl a dychwelyd peiriannau i’r gweithdy yma i’w trwsio.
Yn ystod y misoedd nesa, bydd newidiadau cynhyrfus eraill yn cymeryd lle yma yn Clwyd Agricultural – cadwch lygad allan am newyddion am hyn ar ein gwefan a’n tudalen Facebook. Edrychwm ymlaen at wireddu’r newidiadau yma, ac at eich croesawu yma yn y misoedd i ddod.
Hoffem ddiolch o flaen llaw am eich cefnogaeth parhaol, ac os oes gennych unrhyw gwstiwn am fanylion y llythyr yma, peidiwch ac oedi i gysylltu ac un ohonom.
Yr eiddoch yn gywir,
Lizzie Gruffydd, Pryderi Gruffydd and Gareth Davies