Cyfle Gwaith
Newyddion & Cynigion Diweddaraf
Cartref > Newyddion & Cynigion > Cyfle Gwaith
Teitl y Swydd: Rheolwr Gwerthiant
Oriau: 42.5 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am i 5.30pm a rota dydd Sadwrn
Lleoliad: Dyserth, Sir Ddinbych LL18 6HT
Sefydlwyd Clwyd Agricultural Cyfyngedig dros 40 mlynedd yn ôl ac mae'n ddeliwr peiriannau amaethyddol a gofal tir rhanbarthol blaenllaw. Rydym yn cyflenwi ystod eang o beiriannau amaethyddol ledled canolbarth a gogledd Cymru a Swydd Gaer, a hefyd yn gwerthu offer ail law o ansawdd ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi ein lleoli yn Nyserth, Sir Ddinbych gyda mynediad hawdd i'r A55 a'r ardaloedd cyfagos.
Y Rôl
Mae’r rôl wedi’i lleoli allan yn y maes gydag ychydig iawn o amser yn y depo. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am werthiant yn eu maes gwerthu, gweithredu'r strategaeth werthu, gweledigaeth gwerthu, amcanion blynyddol a phrosesau gwerthu.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â’r tasgau canlynol (nid yw’r rhestr hon yn holl gynhwysfawr):
• Gwerthu cynhyrchion a diwallu anghenion cwsmeriaid, a chymryd archebion gan gwsmeriaid presennol neu ddarpar gwsmeriaid
• Sicrhau bod y cwsmer yn fodlon ac edrych ar ôl y cwsmer yn dda wrth iddynt brynu ac ar ôl hynny
• Trafod telerau gwerthu a chytundebau a chau gwerthiannau gyda chwsmeriaid
• Datrys cwynion a phryderon cwsmeriaid
• Gweithio gyda'r system gyfrifiadurol i godi archebion gwerthu
• Gweithio gyda chyflenwyr i stocio eitemau newydd ac arloesol
• Archebu peiriannau gan gyflenwyr am y pris gorau sydd ar gael
Gofynion Ymgeiswyr
• Profiad gwerthu a rheoli gwerthiant
• Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Cyfarwydd â pheiriannau amaethyddol a chynhyrchion ein cystadleuwyr
• Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fantais ond ddim yn hanfodol
• Trwydded yrru a’r gallu i dynnu trelar
Buddion
• 22 diwrnod o wyliau (a gwyliau banc)
• Hyfforddiant parhaus a chyfleoedd gyrfa
• Cerbyd, gliniadur, ffôn symudol
• Disgownt ar yr holl rannau a’r peiriannau a gyflenwir gan y cwmni
All applications for this Sales Representative role are to be submitted by email to lizzie@clwydagri.co.uk